Mynediad i wasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf
Ceir mynediad at wasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf trwy wneud cyfeiriad at Gyda'n Gilydd.
Os ydych yn ansicr os yw’r teulu yn addas ar gyfer derbyn gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf /Gyda’n Gilydd ceir arweiniad yn y ddogfen:
Gwneud y penderfyniad iawn y tro cyntaf - Penderfyniadau trothwyon gwasanaethau plant, pobl ifanc a theuluoedd (atodiad isod)
Sut i gyfeirio
Gall unrhyw un gyfeirio at Gyda’n Gilydd boed yn weithiwr rheng flaen neu’r teuluoedd eu hunain. Mae'n rhaid cael caniatâd y teulu cyn cyfeirio at Gyda’n Gilydd gan fod y gwasanaethau yn wirfoddol i deuluoedd. Nid yw yn wasanaeth statudol.
I dderbyn gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf rhaid i o leiaf 3 o’r dangosyddion fod yn berthnasol. Caiff rhestr o'r dangosyddion i'w dargafnod ar bedwaredd dudalen y ffurflen gyfeirio adlewyrchu sefyllfa’r teulu (atodiad isod). Dylid ticio'r rhai perthnasol.
Sut mae'n gweithio - Siart Llif
Trwy Gyda’n Gilydd gellir cael gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf yn eich ardal i helpu’r teulu i ddelio efo problemau ac i newid pethau er gwell iddynt.
Gallwn wneud hyn mewn dwy ffordd wahanol:
Pan rydym yn derbyn cyfeiriad mae’n mynd at gyfarfod dyrannu Teuluoedd yn Gyntaf sydd yn penderfynu ar sail y cyfeiriad:
Gweler llif cyfeiriadau Teuluoedd yn Gyntaf (atodiad isod)
Am fwy o fanylion cysylltwch gyda Gyda’n Gilydd:
Canolfan Noddfa,
Cil Peblig,
Caernarfon.
LL55 2RS
Ffôn: 01286 676128
E-bost: gydangilydd@gwynedd.gov.uk
Ewch i Adobe.com i lawrlwytho'r meddalwedd di-dal Adobe© Reader neu i gael cymorth gyda darllen ffeiliau pdf.
© Hawlfraint Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Gwynedd
Ty Cegin, Rhodfa Penrhyn, Maesgeirchen, Bangor, Gwynedd LL57 1LR
Oriau Agor : Dydd Llun i Dydd Gwener, 9:00 - 17:00
T 01248 352436 | TXT 07920083909 | M 07976 623816
Preifatrwydd a Chwcis | Telerau
Dylunwyd gan imaginet